logoflag Cymraegflag English

Mae'r Rhaglen Etc yn gynllun ar gyfer pobl ifanc sydd yn yr ysgol uwchradd, neu'r tu hwnt iddi. Mae’n adeiladu ar egwyddorion, effaith, a thystiolaeth cynllun Pasbort i Ddysgu Prifysgol y Plant ac yn cymhwyso fframwaith hirsefydlog Prifysgol y Plant i’r cyfleoedd a’r gweithgareddau sydd fwyaf addas ar gyfer plant hŷn a phobl ifanc.

Erbyn i berson ifanc droi’n 18 oed dim ond 9% o’i fywyd effro mewn ystafell ddosbarth y bydd wedi ei dreulio. Er hyn, mae'r system addysg yn canolbwyntio'n anghymesur ar y cwricwlwm dosbarth. Mae’r holl ardystiadau a chofnodion sydd gan bobl ifanc yn gadael yr ysgol yn ymwneud â’r addysg ffurfiol hon, ond gwyddom nad dyna’r stori lawn. Mae ‘et cetera’ yn cyfieithu’n llythrennol fel “a’r gweddill” a dyna’n union y mae’r Rhaglen Etc wedi’i chynllunio i’w dal; stori’r hyn maen nhw wedi’i wneud y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth gan amlygu’r gwerth, y sgiliau a’r newid a ddatblygwyd gan ddefnyddio gweddill eu hamser.

Mae hwn yn brosiect peilot sydd ond ar gael i ysgolion gwahoddedig ar hyn o bryd. I gael gwybod mwy cysylltwch â Phrifysgol y Plant. I weld y dystiolaeth o effaith sy'n sail i'r fenter hon, ewch i www.childrensuniversity.co.uk/stateofthenation